Adroddiad Blynyddol y Grŵp Trawsbleidiol ar Olwg 2014-2015

 

Cyflwyniad

Mae'r Grŵp Trawsbleidiol ar Olwg yn gweithio i:

·        roi’r wybodaeth a’r gefnogaeth y mae ei hangen ar Aelodau i fod yn ‘hyrwyddwyr colli golwg,’ a chodi ymwybyddiaeth ar draws y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch y problemau y mae pobl sydd wedi colli’u golwg yn eu hwynebu;

·        goruchwylio a chefnogi cynnydd tuag at weithredu'r Strategaeth Golwg i Gymru, gan gael yr holl aelodau i helpu i hyrwyddo proffil y Strategaeth yn y Llywodraeth a thu hwnt;

·        darparu fforwm lle bydd lleisiau a phrofiadau pobl sydd wedi colli'u golwg yn cael eu clywed yn uniongyrchol gan Aelodau'r Cynulliad.

 

Dyma aelodau'r grŵp:

Sandy Mewies AC (Cadeirydd)

Janet Finch-Saunders AC

Eluned Parrott AC

Rhodri Glyn Thomas AC

Emma Sands, RNIB Cymru (Ysgrifennydd)

 

 

Datganiad gan y Cadeirydd

Mae wedi bod yn flwyddyn brysur arall i'r Grŵp Trawsbleidiol ar Olwg eleni, gyda rhan fawr o'n gwaith yn cynnwys gweithio ar gynaliadwyedd Athrawon Cymwysedig ar gyfer Plant â Nam ar y Golwg. Penderfynodd y grŵp eu bod am ofyn i'r Gweinidog ystyried faint o'r athrawon hyn sydd ar gael ar draws Cymru a sicrhau bod digon o athrawon yng Nghymru â'r cymhwyster arbenigol hwn.

 

Rwyf wedi clywed gan lawer o'r awdurdodau lleol ar draws Cymru sydd wedi darparu manylion ynghylch sut y maent yn gweithio mewn partneriaeth gydag awdurdodau lleol eraill, a chan y Gweinidog Addysg am ei gynlluniau ar gyfer sicrhau nad yw plant â nam ar eu golwg yn cael unrhyw anawsterau o ran derbyn addysg.

 

Fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol, rwyf hefyd wedi helpu Grŵp Gweithredu'r Strategaeth Golwg i Gymru i gynnal eu digwyddiad chwemisol yn y Senedd, a'u cynhadledd a oedd yn canolbwyntio eleni ar "Y byd y tu allan yn 2020" gan annog a herio pob partner i sicrhau bod ei wasanaethau ar gael yn rhwydd i bobl sydd wedi colli'u golwg.

 

Y cyfarfod nesaf ym mis Ionawr 2016 fydd fy nghyfarfod olaf fel Cadeirydd cyn etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol. Rwy'n dymuno'n dda i'r grŵp ar gyfer y gwaith a fydd yn cael ei wneud yn y Cynulliad nesaf.

 

Sandy Mewies, AC


 

Dyddiad y cyfarfod: 11 Chwefror 2015

Pwnc

Cyflwynwyd papur ar nifer yr athrawon cymwysedig ar gyfer plant â nam ar eu golwg gan Nicola Crews, Pennaeth Addysg RNIB Cymru.

 

Argymhellion/camau i'w cymryd

Penderfynodd y grŵp ysgrifennu at y Gweinidog Addysg, at Is-Gangellorion Prifysgolion Cymru ac at Awdurdodau Lleol i godi'r mater.

 

Yn bresennol:

Sandy Mewies AC (Cadeirydd)

Matt Harris (staff cymorth Sandy Mewies)

Ceri Jackson (RNIB Cymru)

Nicola Crews (RNIB Cymru)

Peter Jones (Cŵn Tywys Cymru)

Andrea Gordon (Cŵn Tywys)

Jonathan Mudd (Cŵn Tywys)

Owen Williams (Cyngor Cymru i’r Deillion)

Lissa Gomer (Sight Cymru)

Nicola Davis-Job (y Coleg Nyrsio Brenhinol)

Mike Hedges (AC)

Janet Finch-Saunders (AC)

Rhodri Glyn Thomas (AC)

Emma Sands (RNIB Cymru)

Jackie Radford (staff cymorth Aled Roberts)

Tom Davies (staff cymorth Angela Burns)

Ioan Bellin (staff cymorth Simon Thomas)

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dyddiad y cyfarfod: 30 Medi 2015

Pwnc

Cynhaliwyd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Cyflwynodd Ceri Jackson yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n cael ei wneud i sicrhau bod digon o Athrawon Cymwysedig ar gyfer plant â nam ar eu golwg yn ysgolion Cymru; cynhaliwyd adolygiad o waith y grŵp yn ystod 2014-15 a gosodwyd dyddiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Argymhellion/camau i'w cymryd

·        Dylai'r grŵp ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n cael ei wneud i sicrhau bod digon o Athrawon Cymwysedig ar gyfer plant â nam ar eu golwg yn ysgolion Cymru.

·        RNIB Cymru i baratoi adroddiad etifeddiaeth a gwerthusiad o'r grŵp dros y Pedwerydd Cynulliad.

 

 

Yn bresennol:

Sandy Mewies AC (Cadeirydd)

Ceri Jackson (RNIB Cymru)

Peter Jones (Cŵn Tywys Cymru)

Andrea Gordon (Cŵn Tywys)

Catrin Edwards (Sense Cymru)

Marcela Votruba (Ysgol Offthalmoleg)

Mike Hedges (AC)

Janet Finch-Saunders (AC)

Miriam Martin (Prif Swyddog Gweithredol, Action for Blind People)

Emma Sands (RNIB Cymru)

 

 

 

 

 

 

 

Adroddiad Ariannol 2014-15

 

Incwm:

Dim

 

Gwariant (talwyd gan RNIB Cymru):

Arlwyo 11 Chwefror a 30 Medi 2015:

 

Cyfanswm: £200.04

 

Darparwyd y gwasanaeth arlwyo gan Charlton House Catering catering.cardiffbay@cymru.gov.uk  02920 898077 

 

 

 

CYFARFODYDD A RHAI A OEDD YN CYMRYD RHAN:

 

Nid oedd dim lobïwyr proffesiynol yn bresennol nac yn cymryd rhan mewn unrhyw gyfarfodydd yn ystod y flwyddyn.

 

Caiff y Grwpiau Gwirfoddol ac Elusennol a oedd yn bresennol ac yn cymryd rhan yng nghyfarfodydd y grŵp eu rhestru mewn mannau eraill.